|
J. BLACKWELL.
AT EI FAM, PAN OEDD WEDDW.
Athrofa'r Iesu, Rhydychen, Hyd. 19eg 1827.
FY ANWYL FAM,
Fy nyledswydd ydyw hysbysu i chwi, gyda phob brys, fy mod wedi cyrraedd pen fy nhaith yn gysurus, a chael pob peth wrth fy modd. Y mae y cyflwr unig y gadewais chwi ynddo, yn peri i mi hiraethu mwy am danoch y tro hwn nag un tro o'r blaen. Buasai yn dda gan fy nghalon gael aros yn agos atoch nes i angeu ein gwahanu. Ond nid felly y mae Rhagluniaeth yn trefnu: rhaid i ninnau ymostwng. O ddiwrnod i ddiwrnod daw y flwyddyn i fyny, pan y caf eich gweled, gobeithio, mewn gwell iechyd ac ysbrydoedd nag y gadewais chwi. Yn y cyfamser erfyniaf arnoch, er dim, i gadw eich meddwl mor dawel ag y galloch: ar hyn y mae eich cysur chwi a minnau yn ymddibynu. Ni wna tristhau ac ymofidio ddim ond gwaethygu eich llygaid dolurus, a chlwyfo meddwl y rhai a'ch carant. Digon gwir cawsom golled fawr,—collasom y cyfaill ffyddlonaf a thirionaf a welsom erioed; eto "na thristawn fel rhai heb obaith." Oni adawodd dystiolaeth ar ei ol ei fod wedi myned i ddedwyddwch—i wlad well na daear, "lle y gorffwys y rhai lluddedig, ac ni chlywant lais y gorthrymydd." Ac os dilynwn ei lwybrau, ni a gawn ei gyfarfod eto mewn ardal nad oes na phechod, na phoen, nag ymadawiad o'i mewn. "Gwir ddymuniad fy nghalon, a'm gweddi ar Dduw sydd erddoch."
CWYN AR OL CYFAILL.
Pan hirarosai yn Rhydychen, Mehefin, 1827.
(Efelychiad o "Bugail Cwmdyli," gan I. G. G.)
Trwy ba bleserau byd Yr wyt yn crwydro c'yd? Mae pleser fel y lli', A'r moethau goreu i mi Yn wermod hebot ti, Sior anwylaf.
Trwm wibio llygad llaith Am danat yw fy ngwaith; A rhodio godre'r bryn, A gwyrddion lannau'r llyn, Lle rhodit ti cyn hyn, Sior anwylaf.
Mae peraidd flodau d'ardd Yn gwywo fel dy fardd; A'th ddefaid hyd y ddol, A'u gwirion wyn o'u hol Yn gofyn ddo'i di'n ol, Sior anwylaf.
Mae'n Nghymru laeth a mel, Mae'n Nghymru fron ddi-gel, Mae'n Nghymru un yn brudd O'th eisiau, nos a dydd,— A'i gair wrth farw fydd, Sior anwylaf.
MARWOLAETH YR ESGOB HEBER.
Lle treigla'r Caveri {101} yn donnau tryloewon, Rhwng glennydd lle chwardd y pomgranad a'r pin Lle tyfa perlysiau yn llwyni teleidion, Lle distyll eu cangau y neithdar a'r gwin; Eisteddai Hindoo ar lawr i alaru, Ei ddagrau yn llif dros ei riddiau melynddu, A'i fron braidd rhy lawn i'w dafod lefaru, Ymdorrai ei alaeth fel hyn dros ei fin:—
"Fy ngwlad! O fy ngwlad, lle gorwedd fy nhadau! Ai mangre y nos fyddi byth fel yn awr? Y Seren a dybiais oedd Seren y borau, Ar nawn ei disgleirdeb a syrthiodd i lawr; Y dwyrain a wenai, y tymor tywynnodd, A godrau y cwmwl cadduglyd oreurodd, Disgwyliais am haul—ond y Seren fachludodd Cyn i mi weled ond cysgod y wawr.
"Fy ngwlad! O fy ngwlad! yn ofer yr hidlwyd I'th fynwes fendithion rhagorach nag un, Yn ofer ag urdd bryd a phryd y'th anrhegwyd, Cywreindeb i fab, a phrydferthwch i fun; Yn ofer tywynni mewn gwedd ddigyfartal, A blodau amryliw yn hulio dy anial, A nentydd yn siarad ar wely o risial, A pbob peth yn ddwyfol ond ysbryd y dyn.
"Yn ofer y tardd trwy dy dir heb eu gofyn Ddillynion per anian yn fil ac yn fyrdd; Yn ofer y gwisgwyd pob dol a phob dyffryn A dillad Paradwys yn wyn ac yn wyrdd; Yn ofer rhoi awen o Nef i dy adar, A gwythi o berl i fritho dy ddaear; Yn ofer pob dawn tra mae bonllef a thrydar Yr angrhed a'i anrhaith yn llenwi dy ffyrdd.
"Dy goelgrefydd greulon wna d'ardd yn anialdir, Ei sylfaen yw gwaed, a gorthrymder a cham: Pa oergri fwrlymaidd o'r Ganges {102a} a glywir? Maban a foddwyd gan grefydd y fam: Ond gwaddod y gwae iddi hithau ddaw heibio; O! dacw'r nen gan y goelcerth yn rhuddo, Ac uchel glogwyni y Malwah {102b} 'n adseinio Gan ddolef y weddw o ganol y fflam.
"Gobeithiais cyn hyn buasai enw Duw Israel, A'r aberth anfeidrol ar ael Calfari, Yn destun pob cerddi o draeth Coromandel, A chonglau Bengal hyd i eithaf Tickree; {102c} Ac onid oedd Bramah yn crynu ar ei cherbyd, Er y pryd y bu Swartz yn cyhoeddi fod bywyd Yn angau y groes i Baganiaid dwyreinfyd?— Pan gredodd fy nhad yr hyn ddysgodd i mi. {102d}
"A'th ddoniau yn nwch, ac yn uwch dy sefyllfa, A'th enaid yn dan o enyniad y Nef, Cyhoeddaist ti, Heber, yr unrhyw ddiangfa, Gyda'r un serch ac addfwynder ag ef; Dyferai fel gwlith ar y rhos dy hyawdledd, Enillai'r digred at y groes a'r gwirionedd, Llonyddai'r gydwybod mewn nefol drugaredd;— Mor chwith na chaf mwyach byth glywed dy lef.
"Doe i felynion a gwynion yn dryfrith, Cyfrenit elfennau danteithion y nen; Y plant a feithrinit neshaent am dy fendith, A gwenent wrth deimlo dy law ar eu pen; Doe y datgenit fod Nef i'r trallodus— Heddyw ffraethineb sy' fud ar dy wefus— Ehedaist o'r ddaear heb wasgfa ofidus, I weled dy Brynwr heb gwmwl na llen. {103a}
'Fy ngwlad! O fy ngwlad! bu ddrwg i ti'r diwrnod 'Raeth Heber o rwymau marwoldeb yn rhydd; Y grechwen sy'n codi o demlau'r eulunod, Ac uffern yn ateb y grechwen y sydd; Juggernaut {103b} erch barotoa'i olwynion— Olwynion a liwir gan gochwaed dy feibion— Duodd y nos—ac i deulu Duw Sion Diflannodd pob gobaith am weled y dydd."
Yn araf, fy mrawd, paid, paid anobeithio, Gwnai gam ag addewid gyfoethog yr IOR: A ddiffydd yr haul am i seren fachludo? Os pallodd yr aber, a sychodd y mor? Na, na, fe ddaw bore bydd un Haleluia, Yn ennyn o'r Gauts hyd gopau Himalaya, {104a} Bydd baner yr Oen ar bob clogwyn yn India, O aelgerth Cashgur hyd i garth Travancore.
A hwyrach mai d'wyrion a gasglant dy ddelwau A fwrir i'r wadd ar bob twmpath a bryn, Ar feddrod ein Heber i'w rhoi yn lle blodau,— Ei gyfran o ysbail ddymunodd cyn hyn: Heber! ei enw ddeffrodd alarnadau, Gydymaith mewn galar, rho fenthyg dy dannau, Cymysgwn ein cerddi, cymysgwn ein dagrau, Os dinodd y gerdd bydd y llygad yn llyn.
Yn anterth dy lwydd, Heber, syrthiaist i'r beddrod, Cyn i dy goryn ddwyn un blewyn brith; Yn nghanol dy lesni y gwywaist i'r gwaelod, A'th ddeilen yn ir gan y wawrddydd a'r gwlith: Mewn munyd newidiaist y meitr am goron, A'r fantell esgobawl am wisg wen yn Sion, Ac acen galarnad am hymn anfarwolion, A thithau gymysgaist dy hymn yn eu plith.
Llwyni Academus, {104b} cynorsaf dy lwyddiant, Lle gwridaist wrth glod y dysgedig a'r gwar; Y cangau a eiliaist a droed yn adgofiant O alar ac alaeth i'r lluoedd a'th gar: Llygaid ein ieuenctid, a ddysgwyd i'th hoffi, Wrth weled dy ardeb yn britho ffenestri A lanwant, gan gofio fod ffrydiau Caveri Yn golchi dy fynwent wrth draeth Tanquebar.
Llaith oedd dy fin gan wlithoedd Castalia, O Helicon yfaist ym more dy oes; Ond hoffaist wlith Hermon a ffrydiau Siloa, A swyn pob testynau daearol a ffoes: Athrylith, Athroniaeth, a dysg yr Awenau, A blethent eu llawryf o gylch dy arleisiau; Tithau'n ddi-fost a dderbyniaist eu cedau, I'w hongian yn offrwm ar drostan y Groes.
Pan oedd byd yn agor ei byrth i dy dderbyn, Gan addaw pob mwyniant os unit ag ef,— Cofleidiaist y Groes, a chyfrifaist yn elyn Bob meddwl a geisiai fynd rhyngot a'r nef: Yn Hodnet {105} yn hir saif dy enw ar galonnau Y diriaid ddychwelwyd yn saint trwy'th bregethau— Amddifad gadd borth yn dy briod a thithau— Y weddw a noddaist—y wan wneist yn gref.
Gadewaist a'th garant—yn ysbryd Cenadwr Y nofiaist tros donnau trochionog y mor, I ddatgan fod Iesu yn berffaith Waredwr I Vahmond Delhi, ac i Frahmin Mysore; Daeth bywyd ac adnerth i Eglwys y Dwyrain— Offrymwyd ar allor Duw Israel a Phrydain— Yn nagrau a galar Hindoo gallwn ddarllain Na sengaist ti India heb gwmni dy IOR.
O Gor Trichinopoly, cadw di'n ddiogel Weddillion y Sant i fwynhau melus hun, Pan ferwo y weilgi ar lan Coromandel, Gofynnir adfeilion ei babell bob un;— Ond tawed ein pruddgerdd am bennill melusach, A ganodd ein Heber ar dannau siriolach, Yn arwyl y Bardd a pha odlau cymhwysach Dilynir ei elor na'i odlau ei hun?
"Diangaist i'r bedd—ni alarwn am danad, Er mai trigfa galar a niwl ydyw'r bedd; Agorwyd ei ddorau o'r blaen gan dy Geidwad, A'i gariad gwna'r ddunos yn ddiwrnod o hedd. Diangaist i'r bedd—ac ni welwn di mwyach Yn dringo rhiw bywyd trwy ludded a phoen: Ond breichiau rhad ras a'th gofleidiant ti bellach, Daeth gobaith i'r euog pan drengodd yr Oen.
"Diangaist i'r bedd—ac wrth adael marwoldeb Rhwng hyder ac ofn, os unwaith petrusaist, Dy lygaid agorwyd yn nydd tragwyddoldeb, Ac angel a ganodd yr Anthem a glywaist. Diangaist i'r bedd—byddai'n bechod galaru, At Dduw y diangaist—y Duw a dy roes: Efe a'th gymerodd—Efe wna'th adferu Digolyn yw angau trwy angau y groes."
* * * * *
Cyfieithiad yw'r ddau bennill olaf o emyn Heber ei hun,—
"Thou art gone to the grave, but we will not deplore thee, Though sadness and sorrow encompass the tomb."
SEREN BETHLEHEM.
(Cyfieithiad o Saesoneg H. K. White.)
Pan bo ser anhraethol nifer Yn britho tywyll lenni'r nen, At un yn unig drwy'r eangder Y tal i'r euog godi ei ben; Clywch! Hosanna'n felus ddwndwr Red i Dduw o em i em, Ond un sy'n datgan y Gwaredwr, Honno yw Seren Bethlehem.
Unwaith hwyliais ar y cefnfor A'r 'storm yn gerth, a'r nos yn ddu, Minnau heb na llyw, nac angor, Na gwawr, na gobaith o un tu, Nerth a dyfais wedi gorffen, Dim ond soddi yn fy nhrem, Ar fy ing y cododd seren, Seren nefol Bethlehem.
Bu'n llusern a thywysydd imi, Lladdodd ofn y dyfrllyd fedd, Ac o erchyll safn y weilgi Dug fi i borthladd dwyfol hedd;— Mae'n awr yn deg, a minnau'n canu, F'achub o'r ystorom lem, A chanaf pan bo'r byd yn ffaglu Seren! Seren! Bethlehem!
AT MANOR DEIFI.
TO E. WHITLEY, ESQ., BRONCOED.
Cardigan, March 30th, 1835.
MY EVER DEAR SIR,
Old recollections—and recollections dearer for being old—make Broncoed and the name of Whitley much dearer to my memory and heart than other names and places. My own former humble home is now another's,—I know it no more; and there is scarcely a house now in the parish into which I would venture to turn besides yours, your cousin's, Mr. Clough's and two or three more. Yet, I feel a tie between me and Mold and its inhabitants, which nothing but death can unloose. There lies the grave of my dear, though poor parents, and there burst the dawn of my brightest days. The same Providence which smiled upon the beginning of my happier years, continues kind still. I have indeed abundant reason to thank heaven for the many, many blessings which have been showered upon my path; nor do I forget the kind hands which were employed in showering them, and your own amongst the number.
When I first came to Manordeifi, there was but one service on the Sunday, and that almost entirely in Welsh. Seeing that five of the principal families in Pembrokeshire were under my pastoral care, and that neither themselves nor their dependants understood any Welsh, I established two services, one entirely English, the other exclusively in our beloved Welsh.
CATHL I'R EOS.
Pan guddio nos ein daear gu O dan ei du adenydd, Y clywir dy delori mwyn, A chor y llwyn yn llonydd; Ac os bydd pigyn dan dy fron Yn peri i'th galon guro, Ni wnai, nes torro'r wawrddydd hael, Ond canu a gadael iddo.
A thebyg it' yw'r feinir war Sydd gymar gwell na gemau, Er cilio haul, a hulio bro A miloedd o gymylau; Pan dawo holl gysurwyr dydd, Hi lyna yn ffyddlonaf; Yn nyfnder nos o boen a thrais Y dyry lais felusaf.
Er dichon fod ei chalon wan Yn delwi dan y dulid, Ni chwyna, i flino'i hanwyl rai,— Ei gwen a guddia'i gofid: Ni pheidia'i chan trwy ddunos faith, Nes gweled gobaith goleu Yn t'wynu, megys llygad aur, Trwy bur amrantau'r boreu.
ABAD-DY TINTERN.
Pa sawl bron a oerodd yma? Pa sawl llygad ga'dd ei gloi? Pa sawl un sydd yn y gladdfa, A'r cof o honynt wedi ffoi? Pa sawl gwaith, ar wawr a gosber Swniai'r gloch ar hyd y glyn? Pa sawl Ave, cred a phader, Dd'wedwyd rhwng y muriau hyn?
Ar y gareg sydd gyferbyn, A faluriwyd gan yr hin, Tybiaf weld, o flaen ei eilun, Ryw bererin ar ei lin; Tybiaf fod y mwg o'r thuser Eto'n codi'n golofn wen, A bod swn yr organ seinber Eto yn dadseinio'r nen.
Ond Distawrwydd wnaeth ei phabell Lle cartrefai'r anthem gynt; Nid oes yma, o gor i gangell, Un erddygan, ond y gwynt.— Felly darffo pob coel-grefydd, Crymed byd ger bron y Gwir; Hedd a chariad, ar eu cynnydd, Fo'n teyrnasu tros y tir.
CAN GWRAIG Y PYSGOTWR.
Gorffwys donn, dylifa'n llonydd, Paid a digio wrth y creigydd; Y mae anian yn noswylio, Pa'm y byddi di yn effro? Dwndwr daear sydd yn darfod,— Cysga dithau ar dy dywod.
Gorffwys for! mae ar dy lasdon Un yn dwyn serchiadau 'nghalon; Nid ei ran yw bywyd segur, Ar dy lifiant mae ei lafur; Bydd dda wrtho, for diddarfod, Cysga'n dawel ar dy dywod.
Paid a grwgnach, bydd yn ddiddig, Dyro ffrwyn ym mhen dy gesig; A pha esgus iti ffromi? Nid oes gwynt ym mrig y llwyni: Tyrd a bad fy ngwr i'r diddos Cyn cysgodion dwfn y ceunos.
Iawn i wraig yw teimlo pryder Pan bo'i gwr ar gefn y dyfnder; Ond os cyffry dig dy donnau, Pwy a ddirnad ei theimladau? O bydd dirion wrth fy mhriod,— Cysga'n dawel ar dy dywod.
Byddar ydwyt i fy ymbil, For didostur, ddofn dy grombil; Trof at Un a all dy farchog Pan bo'th donnau yn gynddeiriog; Cymer Ef fy ngwr i'w gysgod, A gwna di'n dawel ar dy dywod.
[Gwraig y Pysgotwr. "Gorffwys for, mae ar dy lasdon Un yn dwyn serchiadau 'nghalon.": alun105.jpg]
Y DDEILEN GRIN
Sech yw'r ddeilen ar y brigyn, Buan iawn i'r llaid y disgyn; Ond y meddwl call a ddarllen Wers o addysg ar y ddeilen.
Unwaith chwarddodd mewn gwyrddlesni, Gwawr y nef orftwysodd arni; Gyda myrddiwn o gyfeillion, Dawnsiodd yn yr hwyr awelon.
Darfu'r urdd oedd arni gynnau, Prin y deil dan wlith y borau, Cryna rhag y chwa ireiddlon Sydd yn angeu i'w chyfoedion.
Ni all haul er ymbelydru, Na llawn lloer er ei hariannu, Ac ni all yr awel dyner Alw yn ol ei hen ireidd-der.
Blaguro ychydig oedd ei chyfran, Rhoi un wen ar wyneb anian; Llef o'r nef yn Hydref waedda— Darfu'th waith,"—a hithau drenga.
Footnotes:
{1a} O wawl-arluniau gan y diweddar John Thomas.
{1b} O wawl-arluniau gan y diweddar John Thomas.
{1c} O wawl-arluniau gan y diweddar John Thomas.
{1d} O wawl-arluniau gan y diweddar John Thomas.
{26} Cyfeiriad at farwolaeth echrydus Iorwerth II. Cym. The Bard, Gray.
{27} Man y llofruddiwyd llawer o hil Edward.
{28} Harri VII., buddugwr Bosworth.
{33} Yr arwyddair dan Loer arian y Twrc yw,—"Nes llenwi hol ddaear."
{45a} Flodden Field, by Sir Walter Scott.
{45b} Siege of Corinth, by Lord Byron; and Siege of Valencia, by Mrs. Hemans.
{47} The English Channel.
{53} Hesperus, the evening star.
{101} Caveri.—Afon yn Ngorllewin Hindostan, a lifa heibio Trichinopoly, claddfa yr Esgob Heber, ac a ymarllwysa i for Coromandel wrth Tranquebar.
{102a} Ganges—prif afon India—gwrthddrych addoliad y Brahminiaid. Cyffredin ydyw i wragedd daflu eu mabanod i'w thonnau er mwyn boddio y duw Himalaya, a elwir yn Dad y Ganges.
{102b} Y Malwah.—Rhes o fynyddoedd uchel yng nghanol Hindostan. Nid yw cyngor na cherydd Prydeiniaid yn gallu rhwystro yr arfer greulon gynhwynol o losgi gweddwon byw gyda'u gwyr meirw.
{102c} Nid anghyffelyb Hindostan i drionglyn, Coromandel, Tickree, a Bengal, ydynt y conglau.
{102d} Tybir bod tua 40,000 o Gristionogion, ond bod mwy na'u hanner yn Babyddion, yn y Carnatic. Nid yw prin werth crybwyll mai un o hil dyscyblion Swartz, cenadwr enwog tua chan' mlynedd yn ol, ydyw yr Hindoo a ddychymyga yr Alarnad.
{103a} Angeu disyfyd a gymerodd Heber ymaith tra y mwynhai drochfa dwymn. Y dydd o'r blaen—y Sabbath—cyflawnai ddyledswyddau ei daith esgobawl.
{103b} Juggernaut—un o eilunod pennaf Hindostan. Ar ei gylchwyl llusgir ef ar gert enfawr i ymweled a'i hafoty. Ymdafla miloedd o'i addolwyr dan ei olwynion trymion, ac yno y llethir hwynt.
{104a} Gauts—mynyddoedd uchel wrth Travancore, penrhyn deheuol.—Himalaya, mynyddoedd uwch, wrth Cashgur, penrhyn gogleddol Hindostan.
{104b} Llwyni Academus. Nid oes ond a wypo a ddichon ddychymygu y parch a dalwyd yn Rhydychen i Heber, ar parch a delir eto i'w enw. Yno y daeth gyntaf i wydd yr oes drwy ei Balestine, a gyfieithwyd i'r Gymraeg mor ardaerchog gan yr unig wr cyfaddas i'r gorchwyl—yr enwocaf Gymro, Dr. Pughe.
{105} Hodnet—yn Amwythig—yno y cyflawnai Heber swydd Bugail Cristionogol yn ddifefl hyd ei symudiad i India.
THE END |
|